Clémentine Schneidermann



Ffotograffydd Ffrengig sy'n byw ac yn gweithio rhwng Paris a De Cymru yw Clémentine Schneidermann. Yn ddiweddar, enillodd ei doethuriaeth yn seiliedig ar ymarfer o Brifysgol De Cymru, Caerdydd. Teitl y gwaith oedd ‘Tynnu Lluniau o Blant mewn Cyd-destun Cymdeithasol: Naratifau a Strategaethau (2021)’. Mae'n gweithio ar brosiectau a chomisiynau hirdymor ac mae ganddi ddiddordeb mewn arferion creadigol newydd mewn ffotograffiaeth ddogfennol gymdeithasol. Mae ganddi ddull cydweithredol a chwareus, gyda diddordeb mewn cymunedau, plentyndod â'n perthynas â hunaniaeth a diwylliant. Mae Schneidermann hefyd yn cyfrannu'n rheolaidd at gyhoeddiadau fel Self Service, Dazed a Vogue Italia. Cyd-sylfaenodd Ffasiwn Stiwdio, sef stiwdio greadigol yn seiliedig ar ffotograffiaeth sy’n cynnal gweithdai ac arddangosfeydd ac yn creu cyhoeddiadau a ffilmiau gyda grwpiau ieuenctid.

https://www.clementineschneider.com

Instagram: @clementine.schneidermann