Cyfleusterau
Mae ein cyfleusterau yn cynnwys yr offer proffesiynol diweddaraf, ystafelloedd tywyll ac ystafelloedd argraffu, sganio, ac ôl-gynhyrchu, stiwdios ffotograffiaeth pwrpasol a chyfleusterau rhwymo llyfrau, gweithdai crefft arbenigol a llyfrgell ffotolyfrau helaeth. Bydd gennych fynediad i’r holl gyfleusterau hyn o ben bore tan 10pm bob dydd, 7 diwrnod yr wythnos. Mae ein holl gyfleusterau mewn un lleoliad - ein campws modern yng nghanol y ddinas!
Storfa Offer:
Rhan anatod o fod yn ffotograffydd dogfennol yw’r angen i gael mynediad at offer ffotograffiaeth a gwybodaeth amdanynt. Boed yn SLR er mwyn saethu gyda ffilm 35mm, neu gamera fformat digidol i gipio delweddau uwch-uchel, yn banel LED er mwyn cael mwy o olau mewn sesiwn ffotograffu, neu feicroffonau cyfeiriadol ar gyfer cynhyrchu ffilmiau, mae gan ein Storfa Cyfryngau ystod eang o offer ar gael i chi ei ddefnyddio ar leoliad neu yn y stiwdio. Byddant yn gallu rhoi cyngor i chi ar ba offer i'w dewis ar gyfer eich prosiectau, a sut i'w defnyddio.
Stiwdios Ffotograffiaeth:
Er bod y rhan fwyaf o ffotograffiaeth ddogfennol yn tueddu digwydd ar leoliad, gallwch ddefnyddio ein stiwdios ffotograffiaeth sy’n llawn offer os oes angen agwedd fwy cysyniadol ar eich prosiect. Mae gan y stiwdios gefndiroedd amrywiol, golau dydd, gosodiadau golau parhaus ac artiffisial, a chromliniau anfeidredd.
Ystafelloedd tywyll:
Unwaith i chi gipio’ch delweddau, y cam nesaf fydd ôl-gynhyrchu. Gall hyn fod ar ffurf datblygu eich ffilm, a threulio amser yn yr ystafell dywyll i argraffu eich negatifau ar bapurau ffibr. Fel arall, gallwch ddefnyddio'r cyfleusterau argraffu analog sych-i-sych cwbl awtomataidd ar gyfer delweddau du a gwyn, neu’n gwasanaeth prosesu lliw-negyddol.
Ôl-gynhyrchu:
Gallwch hefyd ddigideiddio eich negatifau gan ddefnyddio ein sganwyr Imacon. Gan ddefnyddio ein monitorau sydd wedi’u graddnodi ac Adobe Creative Suite gallwch weithio ar eich ffeiliau digidol a sicrhau eu bod yn bodloni safonau proffesiynol. Yna gellir argraffu eich delweddau digidol ar ein hargraffwyr inkjet o ansawdd uchel, a all argraffu hyd at 60 modfedd o led gan ddefnyddio ein meddalwedd RIP proffesiynol. Byddwch yn derbyn hyfforddiant ar greu proffiliau argraffu a mathau o bapur, gan sicrhau cynnyrch o ansawdd uchel. Mae staff technegol sydd â phrofiad helaeth o brosesau print mân ar gael i'ch helpu.
Creu ffotolyfrau a chylchgronau:
Mae llawer o brosiectau ffotograffiaeth dogfennol yn cael eu cyhoeddi ar ffurf ffotolyfrau neu gylchgronau. Byddwch felly yn derbyn hyfforddiant ar sut i greu, dylunio a chynhyrchu cyhoeddiadau, ac mae ystod o gyfleusterau torri a rhwymo ac argraffu arbenigol ar gael i chi i’w defnyddio.
Llyfrgell:
Mae ein llyfrgell yn gartref i un o'r casgliadau gorau o ffotolyfrau yn Ewrop. Mae’r casgliad yn ffynhonnell ysbrydoliaeth ar gyfer eich astudiaethau. Mae’n cael ei diweddaru gyda chyhoeddiadau newydd yn rheolaidd, ond ceir hyd i gyhoeddiadau hynod brin a phwysig hefyd ynghyd ac archifau unigryw fel casgliad David Hurn ac archif Arolwg Casnewydd.
Gweithdai saernïo:
Yn ystod eich gradd, byddwch yn arddangos eich ffotograffau ac mae’n bosib y bydd rhai ohonoch am fentro i greu darnau safle-benodol neu amlgyfrwng. Mae ein gweithdy crefft yn eich galluogi i gynhyrchu fframiau, cypyrddau gwydr a phedestalau, neu osod eich gwaith ar MDF, alwminiwm a deunyddiau eraill. Mae gennych hefyd fynediad i'n stiwdio argraffu 3D a chyfleusterau torri laser. Mae staff arbenigol sydd â gwybodaeth helaeth am saernïo ar y safle i'ch cynghori a'ch cynorthwyo.
Mynediad:
Mae ein cyfleusterau, sydd o’r radd flaenaf, ar agor bob dydd tan 10pm, 7 diwrnod yr wythnos. Mae’r ffaith fod y cyfleusterau i gyd o dan yr un to yn eu gwneud yn gyfleus iawn. Mae hyn yn benodol o wir pe ddewisech fyw yn un o'r neuaddau preswyl modern yng nghanol y ddinas, 1 munud o gerdded o'r campws.