David Barnes (Arweinydd Cwrs)



Rwyf wedi bod yn gweithio fel ffotograffydd a gwneuthurwr ffilmiau ers 25 mlynedd; yn ystod y cyfnod hwn, rwyf wedi canolbwyntio ar ddatblygu prosiectau dogfen tymor hir ochr yn ochr â gyrfa brysur yn tynnu lluniau ar gyfer ystod o gylchgronau, elusennau a chleientiaid eraill. Rwyf hefyd wedi gwneud sawl ffilm ar gyfer y sinema a’r teledu, gan gynnwys comisiwn mawr gan y BBC yn 2019. Rwyf wedi bod yn dysgu ar y cwrs Ffotograffiaeth Ddogfennol ers 2006. Rwy'n byw ac yn anadlu'r cwrs, ac wrth fy modd yn gweithio gyda ffotograffwyr i ddatblygu’r hyn maen nhw’n angerddol drosto.

Dechreuais ymddiddori mewn ffotograffiaeth a chyhoeddi drwy greu ffansîns pync yn yr ysgol. Fe wnes i ei droi'n yrfa ar ôl sawl blwyddyn yn gweithio ym maes peirianneg a chynhyrchu digwyddiadau mawr.

Mae gweithio fel ffotograffydd dogfen wedi bod yn gyffrous ac amrywiol - rwy'n dod â blynyddoedd o brofiad cadarn mewn agweddau lluosog ar y diwydiant i fy addysgu.

Mae fy ngwaith dogfen yn canolbwyntio ar gymunedau yng nghymoedd y de. Roedd llawer o fy mhrosiectau cynnar yn canolbwyntio ar ddiwylliant ieuenctid, ond yn ddiweddar rwyf wedi troi fy sylw at sefydliadau anghyffredin fel y the Loyal Order of Moose; sefydliad dosbarth gweithiol unigryw y mae gennyf fynediad arbennig iddo. Mae creu’r prosiect hwn wedi cynnwys teithio i'r Unol Daleithiau.

Rwy'n hoffi gweithio'n araf ac ar y cyd â'r bobl rwy'n tynnu lluniau ohonyn nhw, ac rwyf wrth fy modd yn cyfuno ffotograffiaeth gyda ffilm a chasglu arteffactau, i greu arddangosfeydd cywrain a thrawiadol.


http://www.davidbarnes.info/