Eileen Little (Uwch Ddarlithydd)


Mae Eileen Little yn Uwch Ddarlithydd ar y cyrsiau israddedig ac MA Ffotograffiaeth a Ffotograffiaeth Ddogfennol ym Mhrifysgol De Cymru. Enillodd ei doethuriaeth o Brifysgol Leeds yn 2013 gyda’i thraethawd ‘Encountering traumatic history through the Autobiographical’ a'i M.F.A o Brifysgol Colorado, Boulder yn 1988. Y mae wedi cyhoeddi nifer o draethodau/penodau mewn amrywiol gyhoeddiadau ar ffotograffiaeth, megis The Philosophy of Photography , a Journal of Visual and Cultural Studies, yn ogystal ag ysgrifennu'n greadigol ar gyfer cyhoeddiadau gan artistiaid. Y mae wedi arddangos ei gwaith yn yr Unol Daleithiau a'r DU.