Gawain Barnard (Arddangoswr Technegol)




Artist ffotograffig o Gymru yw Gawain Barnard  ac mae ei waith yn cyfuno arddull ddogfennol â natur farddonol i greu naratif gweledol. Mae gan ei waith esthetig unigryw ond cryf, boed hynny yn ei brosiectau hirdymor sy’n mabwysiadu dulliau cyfarwydd tirwedd a phortread i lunio cronicl lled-ffuglenol neu drwy ei bortreadau telynegol.

Yn 2021, arddangoswyd ei waith yn arddangosfa Haf yr Academi Frenhinol. Yn 2013, fe enillodd wobr Aneurin Morgan Thomas am y gwaith celf gorau o Gymru fel rhan o’r National Art Open, ac arddangoswyd ei waith yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2014. Mae Barnard wedi derbyn gwobrau gan Gyngor y Celfyddydau ac mae ei waith wedi cael ei arddangos yn genedlaethol ac yn rhyngwladol ac yn cael ei gadw mewn nifer o gasgliadau preifat.