Janire Najera




Ffotograffydd dogfennol ac artist amlgyfrwng sy’n byw yng Nghaerdydd yw Janire Najera. Astudiodd Newyddiaduraeth ym Madrid a Ffotograffiaeth Ddogfennol ym Mhrifysgol Cymru, Casnewydd. Ers graddio, mae Najera wedi ymgymryd â phreswyliadau artistig ac wedi arddangos ei gwaith yn rhyngwladol. Mae ei phrosiectau wedi cael sylw yn The New York Times, The Washington Post, CNN News a The Guardian. Yn 2015, cyhoeddodd Najera ei llyfr cyntaf Moving forward, looking back gydag Editorial RM a Spain arts&culture.

Yn ei gwaith, mae Najera yn gobeithio datblygu delweddaeth sy’n ailystyried  a chwestiynu’r hanesion a’r amgylcheddau rydyn ni’n perthyn iddynt. Mae ei gwaith dogfennol tynnu sylw at gymunedau sydd wedi'u disodli oherwydd newidiadau o fewn yr hinsawdd gymdeithasol ac economaidd. Rhwng 2008 a 2012 bu’n curadu’r prosiect celf amlddisgyblaethol Ghosts in Armour, sef archwiliad artistig i ddirywiad diwydiant sydd wedi llunio diwylliannau tebyg ar draws Ewrop.

https://janirenajera.com

Instagram: @janire_najera