Karin Bareman (Darlithydd)


Taniwyd fy niddordeb mewn ffotograffiaeth yn bymtheg oed, pan wnaeth fy athrawes gelf gyflwyno SLR analog i ni yn ystod cwpl o sesiynau. Byth ers hynny rwyf wedi ymddiddori ym mhotensial ffotograffiaeth i adrodd straeon a bwrw goleuni ar fywydau a diwylliannau pobl eraill.

Bûm yn gweithio am naw mlynedd ym maes curadu a dylunio arddangosfeydd ffotograffiaeth. Treuliais dros bum mlynedd fel curadur cynorthwyol yn Foam - yr amgueddfa ffotograffiaeth yn Amsterdam cyn treulio tair blynedd fel rheolwr prosiect curadurol yn Autograph ABP - oriel ffotograffiaeth yn Llundain sy'n ffocysu ar hil, ethnigrwydd, rhywedd, hunaniaeth a hawliau dynol. Rwyf wedi cyfrannu at gynhyrchu a churadu dros gant o arddangosfeydd a chyhoeddi catalogau, papurau newydd a ffotolyfrau. Yn ogystal, bûm yn gweithio ar gasgliadau ffotograffiaeth, archifau, llyfrgelloedd ffotolyfrau a rhaglenni addysgol y sefydliadau hyn. Mae'r cyfoeth hwn o wybodaeth a phrofiad diwydiant yn cyfrannu at fy addysgu ar y cwrs.

Rwyf hefyd yn ysgrifennu am ffotograffiaeth a’r diwylliant clyweledol yn aml, a hynny ar gyfer cylchgronau a chyfryngau megis Camera Austria, Foam Magazine, Photoworks, Unseen Magazine, EXTRA, Of the Afternoon, American Suburb X a C4 Journal. Ers 2015 rwyf wedi bod yn gwneud ymchwil helaeth i brosiectau ffotograffiaeth ddogfennol yn seiliedig ar Appalachia, rhanbarth o fewn yr Unol Daleithiau. Yn sgil hyn, rwyf wedi ymgynghori â'r archif ffotograffiaeth yn y Ganolfan Ffotograffiaeth Greadigol yn Tucson, Arizona, trwy garedigrwydd Cymrodoriaeth Ymchwil Milton Rogovin, ac ers hynny rwyf wedi bod yn dadansoddi prosiectau a ffotolyfrau perthnasol yn fanwl, gan gyfweld â ffotograffwyr dogfennol am eu hymarfer, ac ymgynghori ag amrywiol archifau ffotograffiaeth eraill megis Archifau Ffotograffiaeth Appalachian yng Ngholeg Berea, Archifau Appalachia yn ETSU, ac Archifau Southern Appalachian ym Mhrifysgol Mars Hill. O ganlyniad i’m hymchwil a’m profiad gwaith, mae fy ngwybodaeth am hanes a theori ffotograffiaeth yn ogystal ag ymarfer dogfennol cyfoes yn helaeth, ac mae hyn oll yn bwydo deunyddiau’r cwrs a’r sesiynau addysgu.