Lisa Barnard (Athro Cyswllt)


Artist, ymchwilydd ac athrawes o Brydain yw Lisa Barnard ac mae ei gwaith ffotograffiaeth yn canolbwyntio ar ddigwyddiadau go iawn, gan ddefnyddio strategaethau amryffurf. Mae ei phrosiectau yn defnyddio'r technegau dogfennol traddodiadol, megis ffotograffiaeth, sain, fideo, a thestun, ynghyd a thechnegau gweledol mwy cyfoes a ffurfiau cyfrifiadurol. Mae Barnard yn cyfuno ei diddordeb mewn estheteg a dadleuon cyfredol ynghylch perthnasedd ffotograffiaeth â’r hinsawdd wleidyddol o fewn prosiectau hollbwysig sy’n canolbwyntio ar ecolegau newydd, technolegau newydd, gwyddoniaeth, a’r cydberthynas filwrol-ddiwydiannol.

“Mae Barnard yn disgrifio ei hun fel artist ffotograffig, ond mae thema wleidyddol yn amlwg ar ei gwaith. Mae’n talu teyrnged i’r tropes o realaeth ddogfennol tra’n ei thanseilio hefyd.”
– Sean O Hagan, The Guardian, adolygydd Chateau Despair.

Mae Barnard yn Athro Cyswllt ac yn Bennaeth ar y cwrs MA mewn Ffotograffiaeth Ddogfennol ym Mhrifysgol De Cymru. Yn ogystal ag arddangos ei phrosiectau mae Barnard wedi cyhoeddi tri monograff, gan gynnwys dau gyda GOST (Chateau Despair, gyda chefnogaeth Cyngor y Celfyddydau ac Hyenas of the Battlefield, a Machines in the Garden, gyda chefnogaeth Gwobr Albert Renger-Patzsch). Cyhoeddwyd ei thrydydd monograff, The Canary and the Hammer, gan MACK.