Lua Ribeira
Yn deillio o'i threftadaeth Galisaidd ei hun, mae gwaith Ribeira yn ymdrin â deinameg gormes a'r cod cynhenid o neilltuaeth gan y prif ddiwylliant. Mae gan waith Ribeira natur gydweithredol sydd ag ôl ymchwil helaeth a'i hagwedd ymdrochol at ei phwnc. Mae ganddi ddiddordeb mewn defnyddio'r cyfrwng ffotograffig fel modd o greu cyfarfyddiadau sy'n sefydlu perthnasoedd a chwestiynu gwahaniadau strwythurol rhwng pobl. Ganed Ribeira yn Galicia (Sbaen) ym 1986 ac ar hyn o bryd mae'n byw ym Mryste, y DU. Enillodd radd mewn Ffotograffiaeth Ddogfennol o Brifysgol De Cymru yn 2016 ac ers hynny mae wedi parhau yn y byd academaidd fel darlithydd gwadd mewn gwahanol brifysgolion. Mae Ribeira yn Aelod Cyswllt o Magnum Photos.
https://luaribeira.com
Instagram: @lua_ribeira
https://luaribeira.com
Instagram: @lua_ribeira