Pam Caerdydd?


Caerdydd yw canolfan y cyfryngau yng Nghymru. Mae BBC Cymru Wales yma yn ogystal ag ITV Cymru Wales ac S4C, a'r sianel deledu leol Made in Cardiff. O ran y cyfryngau print, mae pencadlys y South Wales Echo a 'r Western Mail a’r Wales on Sunday yng Nghaerdydd, yn ogystal â chylchgronau amrywiol fel Offline Journal, Cardiff Times, a Cardiff Life. Mae gorsafoedd radio fel BBC Radio Cymru/Wales, Capital South Wales, Heart South Wales, Radio Cardiff a Radio Glamorgan i gyd yn darlledu o'r ddinas.

Ffotogallery yw y man sy'n ymroddedig i ffotograffiaeth yng Nghaerdydd, gyda hanes helaeth dros ddeugain mlynedd yn arddangos ac yn meithrin rhai o'r ffotograffwyr gorau’r byd, yn ogystal â chomisiynu a chyhoeddi ffotolyfrau. Ochr yn ochr â Ffotogallery, mae gan Amgueddfa Genedlaethol Cymru a Chanolfan Gelfyddydau Chapter lawer i'w gynnig, yn ogystal â'r lleoliad celf CULTVR anhygoel (dan ofal rhai o'n cyn-fyfyrwyr) a Bay Art. Bob dwy flynedd mae Caerdydd yn cynnal arddangosfa a gwobr Artes Mundi, sy’n dod ag artistiaid o fri rhyngwladol i'r ddinas.

Mae Caerdydd yn gartref naturiol i lawer o theatrau a lleoliadau cerdd fel Clwb Ifor Bach, Tramshed, Depot, y Theatr Newydd, Arena Ryngwladol Caerdydd, Canolfan Mileniwm Cymru, Theatr Everyman, Neuadd Dewi Sant, ac Oriel Shift. Yn ogystal â'r celfyddydau a'r cyfryngau, mae Caerdydd hefyd yn gartref i'r Senedd. Ar ben hyn oll, mae gan Gaerdydd lawer i'w gynnig o ran safleoedd hanesyddol a chyrchfannau poblogaidd ac hygyrch, yn sinemâu pen to, mannau bwyd stryd, theatr fyw, siopau coffi, chwaraeon byd-eang, cerddoriaeth, gwyliau a chymaint mwy. Fyddwch chi byth yn brin o bethau i’w gwneud yng Nghaerdydd.

Ac os mai natur a hanes Cymru sy’n mynd â’ch bryd, mae digon ar gael yn y cyffiniau, o Gastell Caerffili i Gastell Coch, o Benrhyn Gŵyr i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, o Amgueddfa Werin Sain Ffagan i Big Pit, Amgueddfa Lofaol Cymru.