Tystebau a Gwobrau Cyn-fyfyrwyr





Mae gan ein myfyrwyr a'n cyn-fyfyrwyr enw da yn y diwydiant ffotograffiaeth: yn gweithio fel ffoto-newyddiadurwyr ar gyfer asiantaethau newyddion mwyaf blaenllaw’r byd gan gynnwys Associated Press a Reuters, cylchgronau fel The New York Times, National Geographic a Time Magazine. Yn ddiweddar, enillodd Lua Ribeira enwebiad asiantaeth Magnum (yr unig gwrs yn Ewrop i gyflawni hyn), cynrychiolodd Tobias Zielony yr Almaen yn Biennale Fenis. Yng ngwobr Deutsche Boerse, enillodd Jack Latham wobr Bar-Tur Photobook, enillodd Sam Laughlin wobr Jerwood / Photoworks ac enillodd Leo Maguire wobr Grierson Trust am ffilm ddogfen.

Mae ein cyn-fyfyrwyr wedi gweithio ym mhob agwedd ar y diwydiant: mae rhai wedi sefydlu orielau a chwmnïau cyhoeddi llyfrau lluniau, ac mae eraill wedi sefydlu cyfleusterau argraffu a chynhyrchu o'r safon uchaf.

Ymhlith y nifer o ffotograffwyr llwyddiannus eraill sydd wedi graddio'n ddiweddar mae Ross Gardner, a ymddangosodd yn Blurring the Lines European Photo Publication 2022; mae nifer o raddedigion wedi ymddangos yn rhaglen Ffocws gan Ffotogallery: Alice Durham, Ross Gardner, Laurie Broughton, a Billy Osborn; mae Curtis Hughes wedi ennill nifer o wobrau gyda gwobrau Portrait of Britain a Portrait of Humanity. Cafodd Laurie Broughton sylw hefyd yng ngwobr Portrait of Britain, ac enillodd Alexander Komenda y drydedd wobr yn y Taylor Wessing Portrait Award yn 2023 (y National Portrait Gallery).


AR Y BRIG YNG NGHYMRU AR GYFER RHAGOLYGON GYRFA YM MAES CYNHYRCHU FFILM A FFOTOGRAFFIAETH - TABLAU CYNGHRAIR Y GUARDIAN 2022