Pam astudio ein cwrs?
Mae gan ffotograffiaeth ddogfennol a ffotonewyddiaduraeth draddodiad hir a nodedig ym Mhrifysgol De Cymru. Drwy ymuno â ni fyddwch yn dod yn rhan o'r etifeddiaeth honno. Sefydlwyd y cwrs yn wreiddiol yn 1973 gan y ffotograffydd Magnum David Hurn, ac ers hynny, mae’r cwrs wedi datblygu i fod yn un o’r rhaglenni ffotograffiaeth dogfennol mwyaf blaengar yn y byd. Mae ein graddedigion wedi symud ymlaen i weithio i gyhoeddiadau mawreddog fel y New York Times, National Geographic, Dazed, Vice, Vanity Fair, The Sunday Times, The Telegraph a The Guardian, yn ogystal â chreu cynnwys ar gyfer ffynonellau newyddion fel y BBC, CNN ac AlJazeera.
Mae ein graddedigion wedi ennill gwobrau aruchel megis Gwobr World Press Photo, Gwobr Ffotograffiaeth Taylor Wessing, y Prix Pictet, Gwobr Ffotograffiaeth Ddogfennol IAFOR a Gwobr Jerwood/Photoworks. Mae ein graddedigion wedi derbyn grantiau ac ysgoloriaethau megis ysgoloriaeth Ian Perry a Grant FNAC.
Mae’n graddedigion wedi dilyn ôl troed David Hurn trwy ddod yn aelodau o Asiantaeth Magnum, ac mae eraill wedi llwyddo ennill cynrychiolaeth gydag asiantaethau fel Panos Pictures. Mae eu gwaith wedi cael ei arddangos ledled y byd, yn rhan o gasgliadau preifat a sefydliadol, ac wedi'i gyhoeddi mewn llawer o ffotolyfrau.
Fel rhan o'r cwrs, byddwch yn dysgu sut i ymchwilio a dod o hyd i straeon, ennill mynediad, gosod eich syniadau ar waith a datblygu naratifau. Byddwch yn dod yn feistr ar gyfathrebu eich straeon i gynulleidfa trwy gael eich hyfforddi i gynhyrchu arddangosfeydd a chyhoeddi ffotolyfrau, saethu a golygu ffilmiau ochr yn ochr â ffotograffau llonydd, a dysgu sut i greu cynnyrch ar gyfer cyfryngau cymdeithasol ac ar-lein. Byddwch yn dysgu sut i wthio ffiniau eich crefft, a byddwch yn ymgyfarwyddo â'r hyn sydd i ddod yn y traddodiad dogfennol. Byddwch yn dysgu gweithio'n unigol ac fel rhan o dîm. Yn eich blwyddyn olaf, fe'ch anogir i ymgymryd â phrosiect mawr gan olrhain straeon rhyngwladol a gwireddu syniadau uchelgeisiol. Byddwch yn gallu gwneud cais am fwrsariaethau penodol i ariannu'r prosiectau hyn. Yn olaf, byddwch yn creu portffolio proffesiynol a phresenoldeb ar-lein, a bydd eich gwaith yn cael ei arddangos yn yr arddangosfa i raddedigion ynghyd a’r catalog sy’n cyd-fynd a’r arddangosfa.
Fel myfyriwr ar y cwrs BA Ffotograffiaeth Ddogfennol ym Mhrifysgol De Cymru byddwch yn dod yn rhan o gymuned glos a chefnogol, gan ddod yn ffrindiau â chyd-fyfyrwyr ar eich cwrs ac ar gyrsiau eraill. Bydd eich athrawon yn eich cefnogi'n frwd i ddatblygu’ch syniadau a'ch prosiectau ac yn rhagweithiol wrth ddarparu gofal bugeiliol a goruchwyliaeth academaidd. Fel rhan o’r radd, gallwch fynd ar deithiau maes yng Nghymru a thramor gyda’ch cyd-fyfyrwyr.
Mae’r staff oll yn ymddiddori, yn ymroddedig ac yn hynod angerddol dros ffotograffiaeth ddogfennol a chreu ffilmiau, ac maent yn hanu o gefndiroedd cymdeithasol a diwylliannol amrywiol gan gyflwyno agweddau amlddiwylliannol i’r cwrs. Mae gan bob aelod o staff brofiad helaeth o weithio o fewn y diwydiant ffotograffiaeth a byddwch yn elwa o'u cyfoeth o wybodaeth a phrofiad a’u cysylltiadau o fewn y diwydiant. Mae ein darlithwyr hefyd yn ymwneud ag ymchwil yn y maes, a fydd hyn yn llywio eich addysg hefyd. Mae eu gwaith wedi cael ei arddangos mewn orielau a gwyliau byd enwog fel Le Center de la Photographie Genève, Fotomuseum Winterthur a Rencontres d’Arles, a Format Festival, wedi’i gyhoeddi mewn cylchgronau fel Foam Magazine a Camera Austria, yn ogystal â chyfnodolion academaidd fel The Philosophy of Photography a'r Journal of Visual and Cultural Studies.
Pam astudio yng Nghaerdydd?